Ddarlithoedd Cyhoeddus WICN
Ewch i'r adran am Ddarlithoedd Cyhoeddus i gael manylion am ddarlithoedd cyhoeddus WICN.
Croeso
Sefydlwyd Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru (WICN) gyda grant £5.2 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi datblygu arbenigedd o safon ryngwladol mewn niwrowyddoniaeth wybyddol a chlinigol yng Nghymru ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe.
Mae’r sefydliad yn tynnu’r tair cyfadran seicoleg at ei gilydd, gyda buddsoddiad mewn fframwaith rheoli ar y cyd, cefnogaeth weinyddol, penodiadau academaidd a chymrodyr gwadd.
Prif gyflawniadau
- papurau
- grantiau
- cydweithio
- allymestyn
- hyfforddiant i raddedigion
Fframwaith
Yn seiliedig ar fframwaith sylfaenol sydd wedi'i hen sefydlu, mae WICN yn parhau i geisio sicrhau tri phrif amcan o fewn niwrowyddoniaeth wybyddol a chlinigol: Addysg, Ymchwil ac Allymestyn.