3logos swan cardiffbangor
Niwrowyddoniaeth Wybyddol: Y groesffordd rhwng gwyddoniaeth wybyddol, delweddu'r ymennydd a niwrowyddoniaeth glinigol.

Cognitive Neuroscience: The intersection of cognitve science, brain imaging, and clinical neuroscience.

WICN Public lectures


Wales Institute of Cognitive Neuroscience (WICN)

Cognitive Neuroscience The intersection of cognitive science, brain imaging, and clinical neuroscience. It is one of the most significant areas of contemporary science and it is beginning to transform our understanding of both normal and damaged brain function.

The Past Although Wales may be small in size, its universities have developed three of the top psychology departments in Europe: The Universities of Bangor, Cardiff and Swansea. These three faculties, home to over 250 academics and researchers, have brought in approximately £11 million in grants in just the last three years.

The Present The Welsh Assembly Government decided to build upon these strengths by investing over £5 million to establish the new multi-centre Wales Institute of Cognitive Neuroscience (WICN). The institute draws together the three psychology faculties, with investment in a shared management structure, administrative support, and additional academic appointments, as well as equipment and technical support in order to grow as one institute, a world leader in the study and application of cognitive and clinical neuroscience.

Since the beginning of 2007 WICN has:

  • Prompted the hiring of over one dozen world-class researchers and the development of dozens of new cross-institute collaborative research projects
  • Hosted British Psychological Society Student Conferences
  • Been at the National Eisteddfod
  • Held a public lecture series
  • Sponsored a launch event at the Senedd in Cardiff
  • Visited local schools
  • Hosted workshops for local schools to the Universities
  • Sponsored collaborative research projects between the three Universities
  • Held two annual research and development conferences, along with ten smaller “themed” workshops
  • Engaged in consulting with health care and industrial partners
  • Hosted a Cognitive Neuroscience Summer School in the area of Memory

The Future

Over the coming years WICN will:

  • Continue to support and extend collaborative neuroscience research groups in Wales and beyond, so as to develop sustainable research collaborations.
  • Establish a cross-university graduate school where students from the three universities will have access to the best that the three university psychology departments have to offer.
  • Engage the public more broadly through additional public outreach activities including seminars, knowledge transfer days, educational exhibitions, and school visits, presentations and workshops.
  • Build on current relationships and form new partnerships, including providing continuing personal and professional development workshops to healthcare and industry.

The Benefits for You If you think that you’d like to tap into the expertise of 250 of the brightest minds in neuroscience, we can get involved with your organization in a wide variety of ways. WICN offers professional resources that can deliver what your group needs, from one-off seminars to continuing professional development courses, from literature reviews to full-scale research projects. Contact us at wicn@bangor.ac.uk

wales

Niwrowyddoniaeth Wybyddol Y groesffordd rhwng gwyddoniaeth wybyddol, delweddu’r ymennydd a niwrowyddoniaeth glinigol. Dyma un o feysydd mwyaf arwyddocaol gwyddoniaeth fodern ac mae’n dechrau trawsnewid ein dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r ymennydd yn gweithio, dan amodau normal a phan mae wedi ei niweidio.

Y Gorffennol Er bod Cymru’n wlad fechan, mae ei phrifysgolion wedi datblygu tair o adrannau seicoleg mwyaf blaenllaw Ewrop: ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Mae’r tair cyfadran hon, sy’n cynnwys 250 o academyddion ac ymchwilwyr, wedi ennill tua £11 miliwn mewn arian grant yn y tair blynedd ddiwethaf.

Y Presennol Penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud yn fawr o’r cryfderau hyn trwy fuddsoddi £5 miliwn i sefydlu Sefydliad Niwrowyddoniaeth aml-ganolfan newydd Cymru (WICN). Mae’r sefydliad yn tynnu’r tair cyfadran seicoleg at ei gilydd, gyda buddsoddiad mewn fframwaith rheoli ar y cyd, cefnogaeth weinyddol, a phenodiadau academaidd ychwanegol, yn ogystal ag offer a chymorth technegol er mwyn datblygu fel un sefydliad a bod ar y brig yn rhyngwladol o ran astudio a chymhwyso niwrowyddoniaeth wybyddol a chlinigol.

Dyma rhai o'r pethau y bu WICN yn eu Gwneud ers dechrau 2007:

  • Wedi cynnal cynadleddau myfyrwyr y British Psychological Society
  • Wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Wedi cynnal cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus
  • Wedi cefnogi lansiad yn y Senedd yng Nghaerdydd
  • Wedi ymweld ag ysgolion lleol
  • Wedi cynnal gweithdai ar gyfer ysgolion yn ardal leol y tair prifysgol
  • Wedi cefnogi projectau ymchwil ar y cyd yn y tair prifysgol
  • Wedi cynnal dwy gynhadledd flynyddol ymchwil a datblygiad, ynghyd â deg gweithdy llai gyda themâu gwahanol
  • Wedi gwneud gwaith ymgynghorol gyda phartneriaid ym maes gofal iechyd ac ym myd diwydiant
  • Wedi cynnal ysgol haf niwrowyddoniaeth wybyddol yn ymwneud â’r cof

Y Dyfodol Yn ei flwyddyn gyntaf yn unig, mae WICN wedi cyflogi dros ddwsin o ymchwilwyr o safon ryngwladol ac wedi datblygu dwsinau o brojectau ymchwil ar y cyd rhwng sefydliadau, yn ogystal â chynnal nifer o gynadleddau. Dros y blynyddoedd nesaf bydd WICN yn gwneud y canlynol:

  • Ail-gyflunio grwpiau ymchwil niwrowyddoniaeth wybyddol yng Nghymru a thu hwnt i ddatblygu cydweithio cynaliadwy ym maes ymchwil.
  • Sefydlu ysgol i raddedigion a fydd yn pontio nifer o brifysgolion lle gall myfyrwyr o’r tair prifysgol wneud yn fawr o adnoddau gorau'r tair cyfadran seicoleg.
  • Ymwneud mwy â’r cyhoedd gyda mwy o weithgareddau estyn allan, yn cynnwys cyfresi o seminarau cyhoeddus, dyddiau trosglwyddo gwybodaeth, arddangosfeydd addysgol, ymweliadau ag ysgolion, cyflwyniadau a digwyddiadau eraill.
  • Datblygu cysylltiadau sydd gennym eisoes a chreu partneriaethau newydd, yn cynnwys darparu gweithdai datblygiad personol a phroffesiynol parhaus i’r maes gofal iechyd a’r byd diwydiant.

Y manteision i chi Os hoffech wneud defnydd o arbenigedd 250 o’r meddyliau gorau ym maes niwrowyddoniaeth, gallem gyfrannu at eich sefydliad mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae WICN yn cynnig adnoddau proffesiynol sy’n gallu cwrdd ag anghenion eich gr?p, yn cynnwys seminarau unigryw a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus, adolygu llenyddiaeth a phrojectau ymchwil mawr. Os hoffech wybod mwy am y modd y gallai WICN wneud eich sefydliad yn fwy llwyddiannus, neu cysylltwch â ni ar wicn@bangor.ac.uk.